Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Waith Ieuenctid | Inquiry into Youth Work

 

YW 11

Ymateb gan : Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA)

Response from : Education Workforce Council (EWC)

Sylwadau agoriadol

Yn dilyn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, bydd Deddf Addysg (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) a rheoliadau cysylltiedig yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr ieuenctid a rhai gweithwyr cymorth ieuenctid penodol gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) o fis Ebrill 2017. Bydd hyn yn golygu y bydd cyfrifoldebau statudol CGA (a osodir allan yn Atodiad A) yn ymestyn i’r gwasanaeth gwaith ieuenctid am y tro cyntaf.

 

Mae’r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i ymarferwyr o fewn y gwasanaeth gwaith ieuenctid yng Nghymru gofrestru gyda’r un corff proffesiynol â gweithwyr proffesiynol addysg eraill yng Nghymru yn benderfyniad sy’n torri tir newydd ac y cyntaf yn y byd. Mae’r Cyngor yn credu bod hyn yn cynnig cyfleoedd i’r sector gwaith ieuenctid ac i Lywodraeth Cymru. Er enghraifft:

 

·         gallai’r sector ddangos ei ymrwymiad i safonau uchel a phroffesiynoldeb drwy gofrestru gydag a rheoleiddio gan gorff proffesiynol;

·         gall CGA gynorthwyo’r sector a Llywodraeth Cymru i godi statws a bri gwaith ieuenctid ymhellach ymysg y cyhoedd a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o’r cyfraniad gwerthfawr y mae’n ei wneud i addysgu a dysgu;

·         gall CGA weithio gyda’r sector a’r llywodraeth i adeiladu ymhellach ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn gwaith ieuenctid;

·         gall CGA ddarparu data newydd ac unigryw o’r Gofrestr ymarferwyr addysg, a darparu cyngor ac ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch y sector er mwyn hysbysu polisi a phenderfyniadau’n well;

·         mae gan CGA allu statudol (drwy Ddeddf Addysg (Cymru) 2014) i hyrwyddo recriwtio i’r sector ac i gynorthwyo gyda chadw gweithwyr os bydd Llywodraeth Cymru’n dymuno i’r Cyngor ymgymryd â gwaith o’r fath.

 

Fodd bynnag, ar ôl gwneud penderfyniad i ymestyn cofrestru i grwpiau eraill yn y gweithlu y tu hwnt i athrawon ysgol a’i gwneud yn ofynnol iddynt dal ffi cofrestru blynyddol CGA, mae angen i’r llywodraeth ymdrin â phob grŵp o gofrestreion yn gyfartal wrth iddi gynllunio gweithlu’r dyfodol a datblygu polisïau. Yn hanesyddol, mae athrawon ysgolion wedi elwa ar gyfleoedd datblygu proffesiynol, ar safonau proffesiynol ac ar drefniadau eraill nad oedd ar gael i weithwyr ieuenctid, athrawon AB, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith neu staff cymorth.

 

Mae’r Cyngor wedi ymgysylltu’n weithredol â’r sector wrth baratoi ar gyfer mis Ebrill 2017. Wrth wneud hynny, mae’r Cyngor yn datblygu ei ddealltwriaeth o’r sector a’r materion sy’n effeithio arno.

 

Mae CGA yn gwahodd y Pwyllgor i ddarllen am gyfrifoldebau statudol CGA yn Atodiad A and byddai’n ei annog i achub ar y cyfle i drafod ymhellach y materion a nodir uchod yn ystod ei sesiynau tystiolaeth. Fel “chwaraewr newydd” yn y sector gwaith ieuenctid a’r gweithlu addysg ehangach yng Nghymru, teimla’r Cyngor y gallai hyn fod yn fuddiol iawn i’r Pwyllgor.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1 - Beth yw eich barn ar allu pobl ifanc i gael mynediad i wasanaethau gwaith ieuenctid, gan gynnwys, er enghraifft:

- lefelau’r ddarpariaeth ledled Cymru ac unrhyw amrywiadau rhanbarthol;

- materion yn ymwneud â mynediad ar gyfer grwpiau penodol o bobl ifanc, er enghraifft, iaith, anabledd, natur wledig, ethnigrwydd?

 

Mae’r Cyngor yn deall bod gan y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru bryderon ynghylch cynaliadwyedd, o ystyried y pwysau ar gyllidebau. Mae’r sector wedi ceisio bod yn arloesol trwy ystyried modelau darpariaeth gwahanol a thrwy symleiddio / cyfuno gwasanaethau, ond mae pryderon ynghylch cyllido’n parhau.

 

Mae hyn, yn ei dro, wedi effeithio ar lefel ac ehangder y ddarpariaeth ledled Cymru, ar lefel awdurdodau lleol ac yn anuniongyrchol yn y sector gwirfoddol. Mae’r pryderon hyn yn fwy difrifol byth mewn perthynas â darpariaeth gwaith ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Mae CGA yn ymwybodol, mewn rhai ardaloedd yn Lloegr, bod ychydig iawn neu ddim gwaith ieuenctid ar gael, ac ni fyddai’r Cyngor eisiau gweld sefyllfa debyg yng Nghymru.

 

Os ydych yn credu bod problemau penodol, sut y gellid eu datrys?

 

Mae’r Cyngor yn ymwybodol bod y sector gwaith ieuenctid yn chwilio am fwy o arweinyddiaeth strategol yng Nghymru a chafwyd trafodaethau ynghylch sefydliad cenedlaethol. Er nad yw CGA yn ystyried mai’r Cyngor ei hun yw’r ateb i’r sefyllfa hon, mae’n credu y gall ychwanegu gwerth yn y dyfodol a byddai’n gwahodd y Pwyllgor i gyfeirio at ei sylwadau agoriadol yn yr ymateb hwn i’r ymgynghoriad.

 


Cwestiwn 2 - Yn eich barn chi, pa mor effeithiol yw polisi a strategaeth gwaith ieuenctid Llywodraeth Cymru?

Wrth ateb y cwestiwn hwn, efallai y byddwch am ystyried:

- polisi a strategaeth gwaith ieuenctid penodol Llywodraeth Cymru, fel ‘y cynnig o ran Gwaith ieuenctid’; Siarter Gwaith Ieuenctid Cymru; Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Cymru 2014 i 2018;

- cyfrifoldebau adrannau Llywodraeth Cymru ac a oes dull cydlynol ar draws adrannau i gefnogi’r broses o ddarparu gwaith ieuenctid.

 

Mae’r Cyngor yn ymwybodol y cafodd nifer o agweddau hanesyddol ar strategaeth a pholisi gwaith ieuenctid Llywodraeth Cymru eu croesawu gan y sector, ac roedd rhanddeiliaid yn gwerthfawrogi’r cyfle i fod yn rhan o ddatblygu dogfennau megis Strategaeth Gwaith Ieuenctid 2007.

 

Fodd bynnag, mae’r Cyngor wedi derbyn adborth bod rhai o fewn y sector yn teimlo bod lefel yr ymgysylltiad gan Lywodraeth Cymru o ran datblygu polisi mwy diweddar megis y Siarter, y Marc Ansawdd a’r Strategaeth 2014-18 bresennol wedi bod yn wannach. Yn ogystal,  mae’r Cyngor yn nodi bod tîm Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am waith ieuenctid wedi lleihau o ran ei faint dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Mae’r Cyngor yn deall bod llawer o bobl yn y sector yng Nghymru’n teimlo bod proffil y gwaith ieuenctid yng Nghymru wedi colli tir dros y blynyddoedd diwethaf o gymharu â sectorau eraill, megis addysgu mewn ysgolion a gofal cymdeithasol.

 

Yn eich barn chi, beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn wahanol/yn well o ran ei gwaith ieuenctid?

 

Mae’r Cyngor wedi derbyn adborth gan y sector sy’n dweud y byddai’n croesawu rhagor o gyfranogiad a thrafodaeth gan Lywodraeth Cymru o ran datblygu strategaeth a pholisi ac mae’n credu bod ganddo strwythurau a chyrff megis y Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid a Chyngor Cymreig Gwasanaethau Ieuenctid Cymru sydd wedi’u hen sefydlu ac sy’n barod i gynorthwyo.

 

Hefyd, byddai CGA yn annog Llywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â  CGA a manteisio ar y cyfleoedd y cyfeirir atynt yn ei sylwadau agoriadol, megis defnyddio CGA i godi proffil gwaith ieuenctid ymhlith y cyhoedd a chwarae rhan mewn recriwtio a chadw gweithwyr a datblygu polisi fel y darperir ar ei gyfer mewn deddfwriaeth sylfaenol gan Lywodraeth Cymru.

 


Cwestiwn 3- Beth yw eich barn ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer gwaith ieuenctid, gan gynnwys cyllid a geir drwy law awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd, a’r trydydd sector.

 

Mae’r Cyngor yn nodi bod lefel y cyllid cyhoeddus ar gyfer gwaith ieuenctid, fel nifer o wasanaethau eraill, wedi gostwng. Felly, mae’n bwysig bod y gwasanaeth gwaith ieuenctid yn ymdrechu i fod yn arloesol a pharhau i herio sut mae’n darparu gwasanaethau. Mae ffigyrau a gyhoeddwyd yn dangos bod gwariant fesul pen ar waith ieuenctid yn isel o gymharu â’r gwariant fesul pen mewn ysgolion.

 

Mae’n bosibl y bydd penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith, ymhen amser, ar rai ffrydiau cyllid megis Erasmus+.

 

Er bod llawer o sefydliadau’r trydydd sector yn hunangynhaliol, mae awdurdodau lleol yn cefnogi llawer o sefydliadau o’r fath, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Felly, mae sefydliadau’r trydydd sector, hefyd, wedi cael eu heffeithio gan doriadau awdurdodau lleol.

 

Os ydych o’r farn bod problemau yn y maes hwn, sut gellir eu datrys?

 

Yn fwy cyffredinol, mae’n ymddangos bod cyllid y sector cyhoeddus y tu hwnt i gwmpas yr ymgynghoriad hwn. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn gwneud y pwyntiau canlynol:

 

·         mae’n bwysig bod pob sefydliad y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn derbyn y “wasgfa” ar arian cyhoeddus a cheisio bod mor gost-effeithiol, effeithlon, arloesol a chreadigol â phosibl wrth ddarparu gwasanaethau. Mae’r gwasanaeth ieuenctid yng Nghymru yn ymwybodol o hyn;

·         fel y nodir uchod, mae’r Cyngor yn gwahodd y Pwyllgor a Llywodraeth Cymru i fynd ati i drafod sut y gall CGA weithio gyda’r llywodraeth a’r sector. Mae’r sector gwaith ieuenctid wedi galw am gorff sy’n chwarae rôl yn hyrwyddo’r sector a chynrychioli ei fuddiannau ers peth amser.

 


Cwestiwn 4 – Yn eich barn chi, a oes unrhyw faterion eraill sy’n berthnasol i’r ymchwiliad y dylid tynnu sylw’r Pwyllgor atynt?

(Er enghraifft: materion gweithlu; y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru; adeiladau a seilwaith; gwaith ieuenctid mewn ysgolion; materion trafnidiaeth; mynediad i dechnoleg ddigidol; ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion i gofrestru ac arolygu rhai lleoliadau addysg y tu allan i’r ysgol.)

 

Mae’r Cyngor yn ailddatgan ei bwyntiau mewn perthynas â chofrestru gyda CGA a’r cyfleoedd y gall eu cynnig i’r sector ac i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.

 

Mae’r Cyngor wedi cyflwyno ymatebion i ymgynghoriadau blaenorol Llywodraeth Cymru ar “leoliadau y tu allan i’r ysgol” a “modelau darparu amgen” yn y 12 mis diwethaf a gallai ddarparu’r rhain i’r Pwyllgor os bydd angen.

 

 

Cwestiwn 5 - Pe byddai’n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o blith yr holl bwyntiau a nodwyd gennych, pa argymhelliad fyddai hwnnw?

Dylai Llywodraeth Cymru fanteisio’n llawn ar ei benderfyniad i ymarferwyr yn y sector gwaith ieuenctid gael eu cofrestru gyda CGA o fis Ebrill 2017 (fel athrawon ysgolion, athrawon AB, staff cymorth dysgu ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith).

 

Fel yr amlinellwyd yn yr ymateb hwn, gallai cofrestru olygu nifer o fanteision posibl ar gyfer y sector; fodd bynnag, mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r sector a CGA er mwyn i gofrestreion gwaith ieuenctid weld gwerth am arian mewn ffioedd cofrestru, gan y bydd Llywodraeth Cymru’n debygol o osod y rhain ar yr un lefel ag ar gyfer ymarferwyr addysg eraill yng Nghymru.

 


 

Atodiad A

Nodau a swyddogaethau’r CGA fel y’u gosodwyd allan yn Neddf Addysg (Cymru) 2014 a rheoliadau cysylltiedig

 

Nodau’r CGA

 

Prif nodau’r CGA yw:

(a)  Cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru

(b)  Cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon a phersonau sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru

(c)  Cynnal hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd a diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni a’r cyhoedd yn gyffredinol.

 

Swyddogaethau’r CGA

 

1.   Cynnal Cofrestr o bersonau a gaiff eu hystyried yn addas i ymarfer o fewn y gweithlu addysg

2.   Ymchwilio a chlywed achosion yn erbyn personau cofrestredig yn ymwneud ag ymddygiad proffesiynol, anghymhwystra neu droseddau

3.   Sefydlu a chynnal Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer cofrestreion

4.   Rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ynghylch ystod o faterion proffesiynol a osodir allan yn y Ddeddf

5.   Ymgymryd â gweithgarwch i hyrwyddo gyrfaoedd mewn proffesiynau a gofrestrir (pan ofynnir gan Lywodraeth Cymru)

6.   Cadw a darparu data ynghylch y gweithlu addysg i ystod o gyrff, gan gynnwys Llywodraeth Cymru

7.   Cofnodi gwybodaeth ynghylch Cyfnod Sefydlu cofrestreion a chlywed apeliadau pan fo cofrestrai’n methu eu Cyfnod Sefydlu ac yn tybio iddynt gael cam gan y penderfyniad

8.   Ymgymryd â gwaith ychwanegol ar ran Llywodraeth Cymru yn ôl y gofyn